Hen Destament

Testament Newydd

Daniel 2:28-42 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

28. Ond y mae Duw yn y nefoedd yn datguddio dirgeledigaethau, ac a fynegodd i'r brenin Nebuchodonosor beth a fydd yn y dyddiau diwethaf. Dy freuddwyd a gweledigaethau dy ben yn dy wely ydoedd hyn yma:

29. Ti frenin, dy feddyliau a godasant yn dy ben ar dy wely, beth oedd i ddyfod ar ôl hyn: a'r hwn sydd yn datguddio dirgeledigaethau, a fynegodd i ti beth a fydd.

30. Minnau hefyd, nid oherwydd y doethineb sydd ynof fi yn fwy na neb byw, y datguddiwyd i mi y dirgelwch hwn: ond o'u hachos hwynt y rhai a fynegant y dehongliad i'r brenin, ac fel y gwybyddit feddyliau dy galon.

31. Ti, frenin, oeddit yn gweled, ac wele ryw ddelw fawr: y ddelw fawr hon, yr oedd ei disgleirdeb yn rhagorol, oedd yn sefyll gyferbyn â thi; a'r olwg arni ydoedd ofnadwy.

32. Pen y ddelw hon ydoedd o aur da, ei dwyfron a'i breichiau o arian, ei bol a'i morddwydydd o bres,

33. Ei choesau o haearn, ei thraed oedd beth ohonynt o haearn, a pheth ohonynt o bridd.

34. Edrych yr oeddit hyd oni thorrwyd allan garreg, nid trwy waith dwylo, a hi a drawodd y ddelw ar ei thraed o haearn a phridd, ac a'u maluriodd hwynt.

35. Yna yr haearn, y pridd, y pres, yr arian, a'r aur, a gydfaluriasant, ac oeddynt fel mân us yn dyfod o'r lloriau dyrnu haf; a'r gwynt a'u dug hwynt ymaith, ac ni chaed lle iddynt; a'r garreg yr hon a drawodd y ddelw a aeth yn fynydd mawr, ac a lanwodd yr holl ddaear.

36. Dyma y breuddwyd: dywedwn hefyd ei ddehongliad o flaen y brenin.

37. Ti, frenin, wyt frenin brenhinoedd: canys Duw y nefoedd a roddodd i ti frenhiniaeth, gallu, a nerth, a gogoniant.

38. A pha le bynnag y preswylia plant dynion, efe a roddes dan dy law fwystfilod y maes, ac ehediaid y nefoedd, ac a'th osododd di yn arglwydd arnynt oll: ti yw y pen aur hwnnw.

39. Ac ar dy ôl di y cyfyd brenhiniaeth arall is na thi, a thrydedd frenhiniaeth arall o bres, yr hon a lywodraetha ar yr holl ddaear.

40. Bydd hefyd y bedwaredd frenhiniaeth yn gref fel haearn: canys yr haearn a ddryllia, ac a ddofa bob peth: ac fel haearn, yr hwn a ddryllia bob peth, y maluria ac y dryllia hi.

41. A lle y gwelaist y traed a'r bysedd, peth ohonynt o bridd crochenydd, a pheth ohonynt o haearn, brenhiniaeth ranedig fydd; a bydd ynddi beth o gryfder haearn, oherwydd gweled ohonot haearn wedi ei gymysgu â phridd cleilyd.

42. Ac fel yr ydoedd bysedd y traed, peth o haearn, a pheth o bridd; felly y bydd y frenhiniaeth, o ran yn gref, ac o ran yn frau.

Darllenwch bennod gyflawn Daniel 2