Ti frenin, dy feddyliau a godasant yn dy ben ar dy wely, beth oedd i ddyfod ar ôl hyn: a'r hwn sydd yn datguddio dirgeledigaethau, a fynegodd i ti beth a fydd.