Hen Destament

Testament Newydd

Caniad Solomon 7:1-6 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Mor deg yw dy draed mewn esgidiau, ferch pendefig! cymalau dy forddwydydd sydd fel tlysau, gwaith dwylo y cywraint.

2. Dy fogail sydd fel gorflwch crwn, heb eisiau lleithder: dy fru fel twr gwenith wedi ei amgylchu â lili.

3. Dy ddwy fron megis dau lwdn iwrch o efeilliaid.

4. Dy wddf fel tŵr o ifori; dy lygaid fel pysgodlynnoedd yn Hesbon wrth borth Beth‐rabbim; dy drwyn fel tŵr Libanus yn edrych tua Damascus.

5. Dy ben sydd arnat fel Carmel, a gwallt dy ben fel porffor; y brenin sydd wedi ei rwymo yn y rhodfeydd.

6. Mor deg ydwyt, ac mor hawddgar, fy nghariad, a'm hyfrydwch!

Darllenwch bennod gyflawn Caniad Solomon 7