Hen Destament

Testament Newydd

Barnwyr 7:14-25 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

14. A'i gyfaill a atebodd ac a ddywedodd, Nid yw hyn ddim ond cleddyf Gedeon mab Joas, gŵr o Israel: Duw a roddodd Midian a'i holl fyddin yn ei law ef.

15. A phan glybu Gedeon adroddiad y breuddwyd, a'i ddirnad, efe a addolodd, ac a ddychwelodd i wersyll Israel; ac a ddywedodd, Cyfodwch: canys rhoddodd yr Arglwydd fyddin y Midianiaid yn eich llaw chwi.

16. Ac efe a rannodd y tri channwr yn dair byddin, ac a roddodd utgyrn yn llaw pawb ohonynt, a phiserau gwag, a lampau yng nghanol y piserau.

17. Ac efe a ddywedodd wrthynt hwy, Edrychwch arnaf fi, a gwnewch yr un ffunud: ac wele, pan ddelwyf i gwr y gwersyll, yna fel y gwnelwyf fi, gwnewch chwithau.

18. Pan utganwyf fi mewn utgorn, myfi a'r holl rai sydd gyda mi, utgenwch chwithau mewn utgyrn o amgylch yr holl wersyll, a dywedwch, Cleddyf yr Arglwydd a Gedeon.

19. Felly Gedeon a ddaeth i mewn, a'r cannwr oedd gydag ef, i gwr y gwersyll, yn nechrau'r wyliadwriaeth ganol, a'r gwylwyr wedi eu newydd osod, ac a utganasant mewn utgyrn, ac a ddrylliasant y piserau oedd yn eu dwylo.

20. A'r tair byddin a utganasant mewn utgyrn, ac a ddrylliasant y piserau, ac a ddaliasant y lampau yn eu llaw aswy, a'r utgyrn yn eu llaw ddeau i utganu: a hwy a lefasant, Cleddyf yr Arglwydd a Gedeon.

21. A safasant bob un yn ei le, o amgylch y gwersyll: a'r holl wersyll a redodd, ac a waeddodd, ac a ffodd.

22. A'r tri chant a utganasant ag utgyrn; a'r Arglwydd a osododd gleddyf pob un yn erbyn ei gilydd, trwy'r holl wersyll: felly y gwersyll a ffodd hyd Beth‐sitta, yn Sererath, hyd fin Abel‐mehola, hyd Tabbath.

23. A gwŷr Israel a ymgasglasant, o Nafftali, ac o Aser, ac o holl Manasse, ac a erlidiasant ar ôl y Midianiaid.

24. A Gedeon a anfonodd genhadau trwy holl fynydd Effraim, gan ddywedyd, Deuwch i waered yn erbyn y Midianiaid, ac achubwch o'u blaen hwynt y dyfroedd hyd Beth‐bara a'r Iorddonen: a holl wŷr Effraim a ymgasglasant, ac a enillasant y dyfroedd hyd Beth‐bara a'r Iorddonen.

25. A daliasant ddau o dywysogion Midian, Oreb a Seeb; a lladdasant Oreb ar graig Oreb, a lladdasant Seeb wrth winwryf Seeb, ac a erlidiasant Midian, ac a ddygasant bennau Oreb a Seeb at Gedeon, i'r tu arall i'r Iorddonen.

Darllenwch bennod gyflawn Barnwyr 7