A phan ddaeth Gedeon, wele ŵr yn mynegi i'w gyfaill freuddwyd, ac yn dywedyd, Wele, breuddwyd a freuddwydiais; ac wele dorth o fara haidd yn ymdreiglo i wersyll y Midianiaid, a hi a ddaeth hyd at babell, ac a'i trawodd fel y syrthiodd, a hi a'i hymchwelodd, fel y syrthiodd y babell.