A Mica a ddywedodd wrtho. Trig gyda mi, a bydd i mi yn dad ac yn offeiriad; a mi a roddaf i ti ddeg sicl o arian bob blwyddyn, a phâr o ddillad, a'th luniaeth. Felly y Lefiad a aeth i mewn.