Hen Destament

Testament Newydd

Barnwyr 14:8-17 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

8. Ac ar ôl ychydig ddyddiau efe a ddychwelodd i'w chymryd hi; ac a drodd i edrych ysgerbwd y llew: ac wele haid o wenyn a mêl yng nghorff y llew.

9. Ac efe a'i cymerth yn ei law, ac a gerddodd dan fwyta; ac a ddaeth at ei dad a'i fam, ac a roddodd iddynt; a hwy a fwytasant: ond ni fynegodd iddynt hwy mai o gorff y llew y cymerasai efe y mêl.

10. Felly ei dad ef a aeth i waered at y wraig; a Samson a wnaeth yno wledd: canys felly y gwnâi y gwŷr ieuainc.

11. A phan welsant hwy ef, yna y cymerasant ddeg ar hugain o gyfeillion i fod gydag ef.

12. A Samson a ddywedodd wrthynt, Rhoddaf i chwi ddychymyg yn awr: os gan fynegi y mynegwch ef i mi o fewn saith niwrnod y wledd, ac a'i cewch; yna y rhoddaf i chwi ddeg ar hugain o lenllieiniau, a deg pâr ar hugain o ddillad:

13. Ond os chwi ni fedrwch ei fynegi i mi; yna chwi a roddwch i mi ddeg ar hugain o lenllieiniau, a deg pâr ar hugain o wisgoedd. Hwythau a ddywedasant wrtho, Traetha dy ddychymyg, fel y clywom ef.

14. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Allan o'r bwytawr y daeth bwyd, ac o'r cryf y daeth allan felystra. Ac ni fedrent ddirnad y dychymyg mewn tri diwrnod.

15. Ac yn y seithfed dydd y dywedasant wrth wraig Samson, Huda dy ŵr, fel y mynego efe i ni y dychymyg; rhag i ni dy losgi di a thŷ dy dad â thân: ai i'n tlodi ni y'n gwahoddasoch? onid felly y mae?

16. A gwraig Samson a wylodd wrtho ef, ac a ddywedodd, Yn ddiau y mae yn gas gennyt fi, ac nid wyt yn fy ngharu: dychymyg a roddaist i feibion fy mhobl, ac nis mynegaist i mi. A dywedodd yntau wrthi, Wele, nis mynegais i'm tad nac i'm mam: ac a'i mynegwn i ti?

17. A hi a wylodd wrtho ef y saith niwrnod hynny, tra yr oeddid yn cynnal y wledd: ac ar y seithfed dydd y mynegodd efe iddi hi, canys yr oedd hi yn ei flino ef: a hi a fynegodd y dychymyg i feibion ei phobl.

Darllenwch bennod gyflawn Barnwyr 14