Hen Destament

Testament Newydd

Barnwyr 13:6-16 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

6. Yna y daeth y wraig ac a fynegodd i'w gŵr, gan ddywedyd, Gŵr Duw a ddaeth ataf fi; a'i bryd ef oedd fel pryd angel Duw, yn ofnadwy iawn: ond ni ofynnais iddo o ba le yr oedd, ac ni fynegodd yntau i mi ei enw.

7. Ond efe a ddywedodd wrthyf, Wele, ti a feichiogi, ac a esgori ar fab. Ac yn awr nac yf win na diod gadarn, ac na fwyta ddim aflan: canys Nasaread i Dduw fydd y bachgen, o'r groth hyd ddydd ei farwolaeth.

8. Yna Manoa a weddïodd ar yr Arglwydd, ac a ddywedodd, Atolwg, fy Arglwydd, gad i ŵr Duw yr hwn a anfonaist, ddyfod eilwaith atom ni, a dysgu i ni beth a wnelom i'r bachgen a enir.

9. A Duw a wrandawodd ar lef Manoa: ac angel Duw a ddaeth eilwaith at y wraig, a hi yn eistedd yn y maes; ond Manoa ei gŵr nid oedd gyda hi.

10. A'r wraig a frysiodd, ac a redodd, ac a fynegodd i'w gŵr, ac a ddywedodd wrtho, Wele, ymddangosodd y gŵr i mi, yr hwn a ddaeth ataf fi y dydd arall.

11. A Manoa a gyfododd, ac a aeth ar ôl ei wraig, ac a ddaeth at y gŵr, ac a ddywedodd wrtho, Ai ti yw y gŵr a leferaist wrth y wraig? Dywedodd yntau, Ie, myfi.

12. A dywedodd Manoa, Deled yn awr dy eiriau i ben. Pa fodd y trinwn y bachgen, ac y gwnawn iddo ef?

13. Ac angel yr Arglwydd a ddywedodd wrth Manoa, Rhag yr hyn oll a ddywedais wrth y wraig, ymocheled hi.

14. Na fwytaed o ddim a ddêl allan o'r winwydden, nac yfed win na diod gadarn, ac na fwytaed ddim aflan: cadwed yr hyn oll a orchmynnais iddi.

15. A dywedodd Manoa wrth angel yr Arglwydd, Gad, atolwg, i ni dy atal, tra y paratôm fyn gafr ger dy fron di.

16. Ac angel yr Arglwydd a ddywedodd wrth Manoa, Ped atelit fi, ni fwytawn o'th fara di: os gwnei boethoffrwm, gwna ef i'r Arglwydd. Canys ni wyddai Manoa mai angel yr Arglwydd oedd efe.

Darllenwch bennod gyflawn Barnwyr 13