8. A hwy a flinasant ac a ysigasant feibion Israel y flwyddyn honno: tair blynedd ar bymtheg, holl feibion Israel y rhai oedd tu hwnt i'r Iorddonen, yng ngwlad yr Amoriaid, yr hon sydd yn Gilead.
9. A meibion Ammon a aethant trwy'r Iorddonen, i ymladd hefyd yn erbyn Jwda, ac yn erbyn Benjamin, ac yn erbyn tŷ Effraim; fel y bu gyfyng iawn ar Israel.
10. A meibion Israel a lefasant ar yr Arglwydd, gan ddywedyd, Pechasom yn dy erbyn; oherwydd gwrthod ohonom ein Duw, a gwasanaethu Baalim hefyd.
11. A dywedodd yr Arglwydd wrth feibion Israel, Oni waredais chwi rhag yr Eifftiaid, a rhag yr Amoriaid, a rhag meibion Ammon, a rhag y Philistiaid?
12. Y Sidoniaid hefyd, a'r Amaleciaid, a'r Maoniaid, a'ch gorthrymasant chwi; a llefasoch arnaf, a minnau a'ch gwaredais chwi o'u llaw hwynt.
13. Eto chwi a'm gwrthodasoch i, ac a wasanaethasoch dduwiau dieithr: am hynny ni waredaf chwi mwyach.
14. Ewch, a llefwch at y duwiau a ddewisasoch: gwaredant hwy chwi yn amser eich cyfyngdra.
15. A meibion Israel a ddywedasant wrth yr Arglwydd, Pechasom; gwna di i ni fel y gwelych yn dda: eto gwared ni, atolwg, y dydd hwn.
16. A hwy a fwriasant ymaith y duwiau dieithr o'u mysg, ac a wasanaethasant yr Arglwydd: a'i enaid ef a dosturiodd, oherwydd adfyd Israel.
17. Yna meibion Ammon a ymgynullasant, ac a wersyllasant yn Gilead: a meibion Israel a ymgasglasant, ac a wersyllasant ym Mispa.
18. Y bobl hefyd a thywysogion Gilead a ddywedasant wrth ei gilydd, Pa ŵr a ddechrau ymladd yn erbyn meibion Ammon? efe a fydd yn bennaeth ar drigolion Gilead.