A hwy a ddygasant i mewn arch yr Arglwydd, ac a'i gosodasant yn ei lle, yng nghanol y babell, yr hon a osodasai Dafydd iddi. A Dafydd a offrymodd boethoffrymau ac offrymau hedd gerbron yr Arglwydd.