10. Ac ni fynnai Dafydd fudo arch yr Arglwydd ato ef i ddinas Dafydd: ond Dafydd a'i trodd hi i dŷ Obed‐Edom y Gethiad.
11. Ac arch yr Arglwydd a arhosodd yn nhŷ Obed‐Edom y Gethiad dri mis: a'r Arglwydd a fendithiodd Obed‐Edom, a'i holl dŷ.
12. A mynegwyd i'r brenin Dafydd, gan ddywedyd, Yr Arglwydd a fendithiodd dŷ Obed‐Edom, a'r hyn oll oedd ganddo, er mwyn arch Duw. Yna Dafydd a aeth, ac a ddug i fyny arch Duw o dŷ Obed‐Edom, i ddinas Dafydd, mewn llawenydd.
13. A phan gychwynnodd y rhai oedd yn dwyn arch yr Arglwydd chwech o gamau, yna efe a offrymodd ychen a phasgedigion.
14. A Dafydd a ddawnsiodd â'i holl egni gerbron yr Arglwydd; a Dafydd oedd wedi ymwregysu ag effod liain.
15. Felly Dafydd a holl dŷ Israel a ddygasant i fyny arch yr Arglwydd, trwy floddest, a sain utgorn.
16. Ac fel yr oedd arch yr Arglwydd yn dyfod i mewn i ddinas Dafydd, yna Michal merch Saul a edrychodd trwy ffenestr, ac a ganfu'r brenin Dafydd yn neidio, ac yn llemain o flaen yr Arglwydd; a hi a'i dirmygodd ef yn ei chalon.
17. A hwy a ddygasant i mewn arch yr Arglwydd, ac a'i gosodasant yn ei lle, yng nghanol y babell, yr hon a osodasai Dafydd iddi. A Dafydd a offrymodd boethoffrymau ac offrymau hedd gerbron yr Arglwydd.
18. Ac wedi gorffen o Dafydd offrymu poethoffrwm ac offrymau hedd, efe a fendithiodd y bobl yn enw Arglwydd y lluoedd.
19. Ac efe a rannodd i'r holl bobl, sef i holl dyrfa Israel, yn ŵr ac yn wraig, i bob un deisen o fara, ac un dryll o gig, ac un gostrelaid o win. Felly yr aeth yr holl bobl bawb i'w dŷ ei hun.
20. Yna y dychwelodd Dafydd i fendigo ei dŷ: a Michal merch Saul a ddaeth i gyfarfod Dafydd; ac a ddywedodd, O mor ogoneddus oedd brenin Israel heddiw, yr hwn a ymddiosgodd heddiw yng ngŵydd llawforynion ei weision, fel yr ymddiosgai un o'r ynfydion gan ymddiosg.