Hen Destament

Testament Newydd

2 Samuel 3:23-39 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

23. Pan ddaeth Joab a'r holl lu oedd gydag ef, mynegwyd i Joab, gan ddywedyd, Abner mab Ner a ddaeth at y brenin; ac efe a'i gollyngodd ef ymaith, ac efe a aeth mewn heddwch.

24. A Joab a ddaeth at y brenin, ac a ddywedodd, Beth a wnaethost ti? wele, daeth Abner atat ti; paham y gollyngaist ef i fyned ymaith?

25. Ti a adwaenit Abner mab Ner, mai i'th dwyllo di y daeth efe, ac i wybod dy fynediad allan, a'th ddyfodiad i mewn, ac i wybod yr hyn oll yr wyt ti yn ei wneuthur.

26. A Joab a aeth allan oddi wrth Dafydd, ac a anfonodd genhadau ar ôl Abner; a hwy a'i dygasant ef yn ôl oddi wrth ffynnon Sira, heb wybod i Dafydd.

27. A phan ddychwelodd Abner i Hebron, Joab a'i trodd ef o'r neilltu yn y porth, i ymddiddan ag ef mewn heddwch; ac a'i trawodd ef yno dan y bumed ais, fel y bu efe farw, oherwydd gwaed Asahel ei frawd ef.

28. Ac wedi hynny y clybu Dafydd, ac y dywedodd, Dieuog ydwyf fi a'm brenhiniaeth gerbron yr Arglwydd byth, oddi wrth waed Abner mab Ner:

29. Syrthied ar ben Joab, ac ar holl dŷ ei dad ef: fel na phallo fod un o dŷ Joab yn ddiferllyd, neu yn wahanglwyfus, neu yn ymgynnal wrth fagl, neu yn syrthio ar gleddyf, neu mewn eisiau bara.

30. Felly Joab ac Abisai ei frawd ef a laddasant Abner, oherwydd lladd ohono ef Asahel eu brawd hwynt mewn rhyfel yn Gibeon.

31. A Dafydd a ddywedodd wrth Joab, ac wrth yr holl bobl oedd gydag ef, Rhwygwch eich dillad, ac ymwregyswch mewn sachliain, a galerwch o flaen Abner. A'r brenin Dafydd oedd yn myned ar ôl yr elor.

32. A hwy a gladdasant Abner yn Hebron. A'r brenin a ddyrchafodd ei lef, ac a wylodd wrth fedd Abner; a'r holl bobl a wylasant.

33. A'r brenin a alarnadodd am Abner, ac a ddywedodd, Ai fel y mae yr ynfyd yn marw, y bu farw Abner?

34. Dy ddwylo nid oeddynt yn rhwym, ac nid oedd dy draed wedi eu rhoddi mewn egwydydd: syrthiaist fel y syrthiai un o flaen meibion anwir. A'r holl bobl a chwanegasant wylo amdano ef.

35. A phan ddaeth yr holl bobl i beri i Dafydd fwyta bara, a hi eto yn ddydd, Dafydd a dyngodd, gan ddywedyd, Fel hyn y gwnelo Duw i mi, ac fel hyn y chwanego, os archwaethaf fara, na dim oll, nes machludo'r haul.

36. A'r holl bobl a wybuant hynny, a da oedd hyn yn eu golwg hwynt: a'r hyn oll a wnâi y brenin, oedd dda yng ngolwg y bobl.

37. A'r holl bobl a holl Israel a wybuant y diwrnod hwnnw, na ddarfuasai o fodd y brenin ladd Abner mab Ner.

38. A'r brenin a ddywedodd wrth ei weision, Oni wyddoch chwi i dywysog ac i ŵr mawr syrthio heddiw yn Israel?

39. A minnau ydwyf eiddil heddiw, er fy eneinio yn frenin; a'r gwŷr hyn, meibion Serfia, sydd ry galed i mi. Yr Arglwydd a dâl i'r hwn a wnaeth y drwg yn ôl ei ddrygioni.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Samuel 3