2 Samuel 3:35 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)
A phan ddaeth yr holl bobl i beri i Dafydd fwyta bara, a hi eto yn ddydd, Dafydd a dyngodd, gan ddywedyd, Fel hyn y gwnelo Duw i mi, ac fel hyn y chwanego, os archwaethaf fara, na dim oll, nes machludo'r haul.