Hen Destament

Testament Newydd

2 Samuel 10:6-17 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

6. A meibion Ammon a welsant eu bod yn ffiaidd gan Dafydd; a meibion Ammon a anfonasant ac a gyflogasant y Syriaid o Beth‐rehob, a'r Syriaid o Soba, ugain mil o wŷr traed, a chan frenin Maacha fil o wŷr, ac o Istob ddeuddeng mil o wŷr.

7. A phan glybu Dafydd, efe a anfonodd Joab, a holl lu y cedyrn.

8. A meibion Ammon a ddaethant, ac a luniaethasant ryfel wrth ddrws y porth: a'r Syriaid o Soba, a Rehob, ac o Istob, a Maacha, oedd o'r neilltu yn y maes.

9. Pan ganfu Joab fod wyneb y rhyfel yn ei erbyn ef ymlaen ac yn ôl, efe a etholodd o holl etholedigion Israel, ac a ymfyddinodd yn erbyn y Syriaid.

10. A gweddill y bobl a roddes efe dan law Abisai ei frawd, i'w byddino yn erbyn meibion Ammon.

11. Ac efe a ddywedodd, Os trech fydd y Syriaid na mi, yna bydd di i mi yn gynhorthwy; ond os meibion Ammon fyddant drech na thi, yna y deuaf i'th gynorthwyo dithau.

12. Bydd bybyr, ac ymwrolwn dros ein pobl, a thros ddinasoedd ein Duw: a gwnaed yr Arglwydd yr hyn fyddo da yn ei olwg ef.

13. A nesaodd Joab, a'r bobl oedd gydag ef, yn erbyn y Syriaid i'r rhyfel: a hwy a ffoesant o'i flaen ef.

14. A phan welodd meibion Ammon ffoi o'r Syriaid, hwythau a ffoesant o flaen Abisai, ac a aethant i'r ddinas. A dychwelodd Joab oddi wrth feibion Ammon, ac a ddaeth i Jerwsalem.

15. A phan welodd y Syriaid eu lladd o flaen Israel, hwy a ymgynullasant ynghyd.

16. A Hadareser a anfonodd, ac a ddug y Syriaid oedd o'r tu hwnt i'r afon: a hwy a ddaethant i Helam, a Sobach tywysog llu Hadareser o'u blaen.

17. A phan fynegwyd i Dafydd hynny, efe a gasglodd holl Israel, ac a aeth dros yr Iorddonen, ac a ddaeth i Helam: a'r Syriaid a ymfyddinasant yn erbyn Dafydd, ac a ymladdasant ag ef.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Samuel 10