3. A thywysogion meibion Ammon a ddywedasant wrth Hanun eu harglwydd, Wyt ti yn tybied mai anrhydeddu dy dad di y mae Dafydd, oherwydd iddo ddanfon cysurwyr atat ti? onid er mwyn chwilio'r ddinas, a'i throedio, a'i difetha, yr anfonodd Dafydd ei weision atat ti?
4. Yna Hanun a gymerth weision Dafydd, ac a eilliodd hanner eu barfau hwynt, ac a dorrodd eu dillad hwynt yn eu hanner, hyd eu cluniau, ac a'u gollyngodd hwynt ymaith.
5. Pan fynegwyd hyn i Dafydd, efe a anfonodd i'w cyfarfod hwynt; canys y gwŷr oedd wedi cywilyddio yn fawr. A dywedodd y brenin, Arhoswch yn Jericho hyd oni thyfo eich barfau chwi; ac yna dychwelwch.
6. A meibion Ammon a welsant eu bod yn ffiaidd gan Dafydd; a meibion Ammon a anfonasant ac a gyflogasant y Syriaid o Beth‐rehob, a'r Syriaid o Soba, ugain mil o wŷr traed, a chan frenin Maacha fil o wŷr, ac o Istob ddeuddeng mil o wŷr.
7. A phan glybu Dafydd, efe a anfonodd Joab, a holl lu y cedyrn.
8. A meibion Ammon a ddaethant, ac a luniaethasant ryfel wrth ddrws y porth: a'r Syriaid o Soba, a Rehob, ac o Istob, a Maacha, oedd o'r neilltu yn y maes.
9. Pan ganfu Joab fod wyneb y rhyfel yn ei erbyn ef ymlaen ac yn ôl, efe a etholodd o holl etholedigion Israel, ac a ymfyddinodd yn erbyn y Syriaid.