Hen Destament

Testament Newydd

2 Cronicl 7:1-10 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Ac wedi gorffen o Solomon weddïo, tân a ddisgynnodd o'r nefoedd, ac a ysodd y poethoffrwm a'r ebyrth; a gogoniant yr Arglwydd a lanwodd y tŷ.

2. Ac ni allai yr offeiriaid fyned i mewn i dŷ yr Arglwydd, oherwydd gogoniant yr Arglwydd a lanwasai dŷ yr Arglwydd.

3. A phan welodd holl feibion Israel y tân yn disgyn, a gogoniant yr Arglwydd ar y tŷ, hwy a ymgrymasant â'u hwynebau i lawr ar y palmant, ac a addolasant, ac a glodforasant yr Arglwydd, canys daionus yw efe; oherwydd bod ei drugaredd ef yn dragywydd.

4. Yna y brenin a'r holl bobl a aberthasant ebyrth gerbron yr Arglwydd.

5. A'r brenin Solomon a aberthodd aberth o ddwy fil ar hugain o ychen, a chwech ugain mil o ddefaid: felly y brenin a'r holl bobl a gysegrasant dŷ Dduw.

6. A'r offeiriaid oedd yn sefyll yn eu goruchwyliaeth: a'r Lefiaid ag offer cerdd yr Arglwydd, y rhai a wnaethai Dafydd y brenin i gyffesu yr Arglwydd, oherwydd yn dragywydd y mae ei drugaredd ef, pan oedd Dafydd yn moliannu Duw trwyddynt hwy: a'r offeiriaid oedd yn utganu ar eu cyfer hwynt, a holl Israel oedd yn sefyll.

7. A Solomon a gysegrodd ganol y cyntedd yr hwn oedd o flaen tŷ yr Arglwydd: canys yno yr offrymodd efe boethoffrymau, a braster yr aberthau hedd; canys ni allai yr allor bres a wnaethai Solomon dderbyn y poethoffrwm, a'r bwyd-offrwm, a'r braster.

8. A Solomon a gadwodd ŵyl y pryd hwnnw saith niwrnod, a holl Israel gydag ef, cynulleidfa fawr iawn, o ddyfodfa Hamath hyd afon yr Aifft.

9. Gwnaethant hefyd yr wythfed dydd gymanfa: canys cysegriad yr allor a gadwasant hwy saith niwrnod, a'r ŵyl saith niwrnod.

10. Ac yn y trydydd dydd ar hugain o'r seithfed mis y gollyngodd efe y bobl i'w pabellau, yn hyfryd ac yn llawen eu calon, am y daioni a wnaethai yr Arglwydd i Dafydd, ac i Solomon, ac i Israel ei bobl.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Cronicl 7