2 Cronicl 7:7 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)
A Solomon a gysegrodd ganol y cyntedd yr hwn oedd o flaen tŷ yr Arglwydd: canys yno yr offrymodd efe boethoffrymau, a braster yr aberthau hedd; canys ni allai yr allor bres a wnaethai Solomon dderbyn y poethoffrwm, a'r bwyd-offrwm, a'r braster.