Hen Destament

Testament Newydd

2 Cronicl 6:8-16 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

8. Ond dywedodd yr Arglwydd wrth Dafydd fy nhad, Oherwydd bod yn dy fryd di adeiladu tŷ i'm henw i, da y gwnaethost fod hynny yn dy galon:

9. Er hynny nid adeiledi di y tŷ; ond dy fab di, yr hwn a ddaeth allan o'th lwynau, efe a adeilada y tŷ i'm henw i.

10. Am hynny yr Arglwydd a gwblhaodd ei air a lefarodd efe: canys mi a gyfodais yn lle Dafydd fy nhad, ac a eisteddais ar orseddfa Israel, fel y llefarodd yr Arglwydd, ac a adeiledais dŷ i enw Arglwydd Dduw Israel.

11. Ac yno y gosodais yr arch; yn yr hon y mae cyfamod yr Arglwydd, yr hwn a amododd efe â meibion Israel.

12. A Solomon a safodd o flaen allor yr Arglwydd, yng ngŵydd holl gynulleidfa Israel, ac a estynnodd ei ddwylo:

13. Canys Solomon a wnaethai bulpud pres, ac a'i gosodasai yng nghanol y cyntedd, yn bum cufydd ei hyd, a phum cufydd ei led, a thri chufydd ei uchder; ac a safodd arno, ac a ostyngodd ar ei liniau gerbron holl gynulleidfa Israel, ac a estynnodd ei ddwylo tua'r nefoedd:

14. Ac efe a ddywedodd, O Arglwydd Dduw Israel, nid oes Duw cyffelyb i ti yn y nefoedd, nac ar y ddaear; yn cadw cyfamod a thrugaredd â'th weision, sydd yn rhodio ger dy fron di â'u holl galon:

15. Yr hwn a gedwaist â'th was Dafydd fy nhad yr hyn a leferaist wrtho; fel y lleferaist â'th enau, felly y cwblheaist â'th law, megis y mae y dydd hwn.

16. Ac yn awr, O Arglwydd Dduw Israel, cadw â'th was Dafydd fy nhad yr hyn a leferaist wrtho, gan ddywedyd, Ni thorrir ymaith oddi wrthyt na byddo gŵr ger fy mron i yn eistedd ar deyrngadair Israel; os dy feibion a wyliant ar eu ffordd, i rodio yn fy nghyfraith i, fel y rhodiaist ti ger fy mron i.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Cronicl 6