24. A phan drawer dy bobl Israel o flaen y gelyn, am iddynt bechu yn dy erbyn; os dychwelant, a chyfaddef dy enw, a gweddïo ac ymbil ger dy fron di yn y tŷ hwn:
25. Yna gwrando di o'r nefoedd, a maddau bechod dy bobl Israel, a dychwel hwynt i'r tir a roddaist iddynt hwy, ac i'w tadau.
26. Pan gaeer y nefoedd, fel na byddo glaw, oherwydd pechu ohonynt i'th erbyn; os gweddïant yn y lle hwn, a chyfaddef dy enw, a dychwelyd oddi wrth eu pechod, pan gystuddiech hwynt:
27. Yna gwrando di o'r nefoedd, a maddau bechod dy weision, a'th bobl Israel, pan ddysgech iddynt dy ffordd dda yr hon y rhodient ynddi; a dyro law ar dy wlad a roddaist i'th bobl yn etifeddiaeth.
28. Os bydd newyn yn y tir, os bydd haint, deifiad, neu falltod, os bydd locustiaid neu lindys; os gwarchae ei elyn arno ef yn ninasoedd ei wlad; neu pa bla bynnag, neu glefyd bynnag a fyddo;
29. Pob gweddi, pob deisyfiad a fyddo gan bob dyn, neu gan holl bobl Israel; pan wypo pawb ei bla ei hun, a'i ddolur, ac estyn ei ddwylo tua'r tŷ hwn:
30. Yna gwrando di o'r nefoedd, o fangre dy breswylfod, a maddau, a dyro i bob un yn ôl ei holl ffyrdd, yr hwn a adwaenost ei galon ef, (canys tydi yn unig a adwaenost galon meibion dynion;)
31. Fel y'th ofnont, gan rodio yn dy ffyrdd di yr holl ddyddiau y byddont hwy byw ar wyneb y ddaear, yr hon a roddaist i'n tadau ni.
32. Ac am y dieithrddyn hefyd, yr hwn ni byddo o'th bobl di Israel, ond wedi dyfod o wlad bell, er mwyn dy enw mawr, a'th law gadarn, a'th fraich estynedig; os deuant a gweddïo yn y tŷ hwn: