Felly y Lefiaid, y rhai oedd gantorion, hwynt-hwy oll o Asaff, o Heman, o Jeduthun, â'u meibion hwynt, ac â'u brodyr, wedi eu gwisgo â lliain main, â symbalau, ac â nablau a thelynau, yn sefyll o du dwyrain yr allor, a chyda hwynt chwe ugain o offeiriaid yn utganu mewn utgyrn.