Hen Destament

Testament Newydd

2 Cronicl 35:18-25 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

18. Ac ni chynaliasid Pasg fel hwnnw yn Israel, er dyddiau Samuel y proffwyd: ac ni chynhaliodd neb o frenhinoedd Israel gyffelyb i'r Pasg a gynhaliodd Joseia, a'r offeiriaid, a'r Lefiaid, a holl Jwda, a'r neb a gafwyd o Israel, a thrigolion Jerwsalem.

19. Yn y ddeunawfed flwyddyn o deyrnasiad Joseia y cynhaliwyd y Pasg hwn.

20. Wedi hyn oll, pan baratoesai Joseia y tŷ, Necho brenin yr Aifft a ddaeth i fyny i ryfela yn erbyn Charcemis wrth Ewffrates: a Joseia a aeth allan yn ei erbyn ef.

21. Yntau a anfonodd genhadau ato ef, gan ddywedyd, Beth sydd i mi a wnelwyf â thi, O frenin Jwda? nid yn dy erbyn di y deuthum i heddiw, ond yn erbyn tŷ arall y mae fy rhyfel i; a Duw a archodd i mi frysio: paid di â Duw, yr hwn sydd gyda mi, fel na ddifetho efe dydi.

22. Ond ni throai Joseia ei wyneb oddi wrtho ef, eithr newidiodd ei ddillad i ymladd yn ei erbyn ef, ac ni wrandawodd ar eiriau Necho o enau Duw, ond efe a ddaeth i ymladd i ddyffryn Megido.

23. A'r saethyddion a saethasant at y brenin Joseia: a'r brenin a ddywedodd wrth ei weision, Dygwch fi ymaith, canys clwyfwyd fi yn dost.

24. Felly ei weision a'i tynasant ef o'r cerbyd, ac a'i gosodasant ef yn yr ail gerbyd yr hwn oedd ganddo: dygasant ef hefyd i Jerwsalem, ac efe fu farw, ac a gladdwyd ym meddrod ei dadau. A holl Jwda a Jerwsalem a alarasant am Joseia.

25. Jeremeia hefyd a alarnadodd am Joseia, a'r holl gantorion a'r cantoresau yn eu galarnadau a soniant am Joseia hyd heddiw, a hwy a'i gwnaethant yn ddefod yn Israel; ac wele hwynt yn ysgrifenedig yn y galarnadau.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Cronicl 35