2 Cronicl 35:18 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)
Ac ni chynaliasid Pasg fel hwnnw yn Israel, er dyddiau Samuel y proffwyd: ac ni chynhaliodd neb o frenhinoedd Israel gyffelyb i'r Pasg a gynhaliodd Joseia, a'r offeiriaid, a'r Lefiaid, a holl Jwda, a'r neb a gafwyd o Israel, a thrigolion Jerwsalem.