1. Mab wyth mlwydd oedd Joseia pan ddechreuodd efe deyrnasu, ac un flynedd ar ddeg ar hugain y teyrnasodd efe yn Jerwsalem.
2. Ac efe a wnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr Arglwydd, ac a rodiodd yn ffyrdd Dafydd ei dad, ac ni ogwyddodd ar y llaw ddeau nac ar y llaw aswy.
3. Canys yn yr wythfed flwyddyn o'i deyrnasiad, tra yr ydoedd efe eto yn fachgen, efe a ddechreuodd geisio Duw Dafydd ei dad: ac yn y ddeuddegfed flwyddyn efe a ddechreuodd lanhau Jwda a Jerwsalem oddi wrth yr uchelfeydd, a'r llwyni, a'r delwau cerfiedig, a'r delwau toddedig.
4. Distrywiasant hefyd yn ei ŵydd ef allorau Baalim; a'r delwau y rhai oedd i fyny oddi arnynt hwy a dorrodd efe: y llwyni hefyd, a'r delwau cerfiedig, a'r delwau toddedig, a ddrylliodd efe, ac a faluriodd, taenodd hefyd eu llwch hwy ar hyd wyneb beddau y rhai a aberthasent iddynt hwy.
5. Ac esgyrn yr offeiriaid a losgodd efe ar eu hallorau, ac a lanhaodd Jwda a Jerwsalem.
6. Felly y gwnaeth efe yn ninasoedd Manasse, ac Effraim, a Simeon, a hyd Nafftali, â'u ceibiau oddi amgylch.
7. A phan ddinistriasai efe yr allorau a'r llwyni, a dryllio ohono y delwau cerfiedig, gan eu malurio yn llwch, a thorri yr eilunod i gyd trwy holl wlad Israel, efe a ddychwelodd i Jerwsalem.
8. Ac yn y ddeunawfed flwyddyn o'i deyrnasiad ef, wedi glanhau y wlad, a'r tŷ, efe a anfonodd Saffan mab Asaleia, a Maaseia tywysog y ddinas, a Joa mab Joahas y cofiadur, i gyweirio tŷ yr Arglwydd ei Dduw.
9. A phan ddaethant hwy at Hilceia yr archoffeiriad, hwy a roddasant yr arian a ddygasid i dŷ Dduw, y rhai a gasglasai y Lefiaid oedd yn cadw y drysau, o law Manasse ac Effraim, ac oddi gan holl weddill Israel, ac oddi ar holl Jwda a Benjamin, a hwy a ddychwelasant i Jerwsalem.
10. A hwy a'i rhoddasant yn llaw y gweithwyr, y rhai oedd oruchwylwyr ar dŷ yr Arglwydd: hwythau a'i rhoddasant i wneuthurwyr y gwaith, y rhai oedd yn gweithio yn nhŷ yr Arglwydd, i gyweirio ac i gadarnhau y tŷ.