Canys yn yr wythfed flwyddyn o'i deyrnasiad, tra yr ydoedd efe eto yn fachgen, efe a ddechreuodd geisio Duw Dafydd ei dad: ac yn y ddeuddegfed flwyddyn efe a ddechreuodd lanhau Jwda a Jerwsalem oddi wrth yr uchelfeydd, a'r llwyni, a'r delwau cerfiedig, a'r delwau toddedig.