1. Mab ugain mlwydd oedd Ahas pan ddechreuodd efe deyrnasu, ac un flynedd ar bymtheg y teyrnasodd efe yn Jerwsalem: ond ni wnaeth efe yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr Arglwydd, fel Dafydd ei dad.
2. Eithr efe a rodiodd yn ffyrdd brenhinoedd Israel, ac a wnaeth i Baalim ddelwau toddedig.
3. Ac efe a arogldarthodd yn nyffryn Ben-hinnom, ac a losgodd ei blant yn tân, yn ôl ffieidd-dra'r cenhedloedd a fwriasai yr Arglwydd allan o flaen meibion Israel.
4. Efe a aberthodd hefyd, ac a arogldarthodd yn yr uchelfeydd, ac ar y bryniau, a than bob pren gwyrddlas.
5. Am hynny yr Arglwydd ei Dduw a'i rhoddodd ef yn llaw brenin Syria; a hwy a'i trawsant ef, ac a gaethgludasant ymaith oddi ganddo ef gaethglud fawr, ac a'u dygasant i Damascus. Ac yn llaw brenin Israel hefyd y rhoddwyd ef, yr hwn a'i trawodd ef â lladdfa fawr.
6. Canys Peca mab Remaleia a laddodd yn Jwda chwech ugain mil mewn un diwrnod, hwynt oll yn feibion grymus: am wrthod ohonynt Arglwydd Dduw eu tadau.
7. A Sichri, gŵr grymus o Effraim, a laddodd Maaseia mab y brenin, ac Asricam llywodraethwr y tŷ, ac Elcana y nesaf at y brenin.