Am hynny yr Arglwydd ei Dduw a'i rhoddodd ef yn llaw brenin Syria; a hwy a'i trawsant ef, ac a gaethgludasant ymaith oddi ganddo ef gaethglud fawr, ac a'u dygasant i Damascus. Ac yn llaw brenin Israel hefyd y rhoddwyd ef, yr hwn a'i trawodd ef â lladdfa fawr.