Hen Destament

Testament Newydd

2 Cronicl 26:5-15 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

5. Ac efe a ymgeisiodd â Duw yn nyddiau Sechareia, yr hwn oedd ganddo ddeall yng ngweledigaethau Duw: a'r dyddiau y ceisiodd efe yr Arglwydd, Duw a'i llwyddodd ef.

6. Ac efe a aeth allan, ac a ryfelodd yn erbyn y Philistiaid, ac a dorrodd i lawr fur Gath, a mur Jabne, a mur Asdod, ac a adeiladodd ddinasoedd yn Asdod, ac ymysg y Philistiaid.

7. A Duw a'i cynorthwyodd ef yn erbyn y Philistiaid, ac yn erbyn yr Arabiaid, y rhai oedd yn trigo yn Gur-baal, a'r Mehuniaid.

8. A'r Ammoniaid a roesant roddion i Usseia: a'i enw ef a aeth hyd y mynediad i'r Aifft; oherwydd efe a ymgryfhaodd yn ddirfawr.

9. Hefyd Usseia a adeiladodd dyrau yn Jerwsalem wrth borth y gongl, ac wrth borth y glyn, ac wrth droad y mur, ac a'u cadarnhaodd hwynt.

10. Ac efe a adeiladodd dyrau yn yr anialwch, ac a gloddiodd bydewau lawer; oblegid yr oedd ganddo lawer o anifeiliaid, yn y dyffryndir ac yn y gwastadedd: a llafurwyr a gwinllanwyr yn y mynyddoedd, ac yn Carmel: canys hoff oedd ganddo goledd y ddaear.

11. Ac yr oedd gan Usseia lu o ryfelwyr, yn myned allan yn fyddinoedd, yn ôl nifer eu cyfrif hwynt, trwy law Jeiel yr ysgrifennydd, a Maaseia y llywydd, dan law Hananeia, un o dywysogion y brenin.

12. Holl nifer pennau-cenedl y rhai cedyrn o nerth oedd ddwy fil a chwe chant.

13. A than eu llaw hwynt yr oedd llu grymus, tri chan mil a saith mil a phum cant, yn rhyfela â chryfder nerthol, i gynorthwyo'r brenin yr erbyn y gelyn.

14. Ac Usseia a ddarparodd iddynt, sef i'r holl lu, darianau, a gwaywffyn, a helmau, a llurigau, a bwâu, a thaflau i daflu cerrig.

15. Ac efe a wnaeth yn Jerwsalem offer trwy gelfyddyd y rhai cywraint, i fod ar y tyrau ac ar y conglau, i ergydio saethau a cherrig mawrion: a'i enw ef a aeth ymhell, canys yn rhyfedd y cynorthwywyd ef, nes ei gadarnhau.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Cronicl 26