12. Holl nifer pennau-cenedl y rhai cedyrn o nerth oedd ddwy fil a chwe chant.
13. A than eu llaw hwynt yr oedd llu grymus, tri chan mil a saith mil a phum cant, yn rhyfela â chryfder nerthol, i gynorthwyo'r brenin yr erbyn y gelyn.
14. Ac Usseia a ddarparodd iddynt, sef i'r holl lu, darianau, a gwaywffyn, a helmau, a llurigau, a bwâu, a thaflau i daflu cerrig.
15. Ac efe a wnaeth yn Jerwsalem offer trwy gelfyddyd y rhai cywraint, i fod ar y tyrau ac ar y conglau, i ergydio saethau a cherrig mawrion: a'i enw ef a aeth ymhell, canys yn rhyfedd y cynorthwywyd ef, nes ei gadarnhau.
16. Ond pan aeth yn gryf, ei galon a ddyrchafwyd i'w ddinistr ei hun; canys efe a droseddodd yn erbyn yr Arglwydd ei Dduw: ac efe a aeth i mewn i deml yr Arglwydd i arogldarthu ar allor yr arogl-darth.
17. Ac Asareia yr offeiriad a aeth i mewn ar ei ôl ef, a chydag ef bedwar ugain o offeiriaid yr Arglwydd, yn feibion grymus:
18. A hwy a safasant yn erbyn Usseia y brenin, ac a ddywedasant wrtho, Ni pherthyn i ti, Usseia, arogldarthu i'r Arglwydd, ond i'r offeiriaid meibion Aaron, y rhai a gysegrwyd i arogldarthu: dos allan o'r cysegr; canys ti a droseddaist, ac ni bydd hyn i ti yn ogoniant oddi wrth yr Arglwydd Dduw.