1. Yna holl bobl Jwda a gymerasant Usseia, ac yntau yn fab un flwydd ar bymtheg, ac a'i hurddasant ef yn frenin yn lle Amaseia ei dad.
2. Efe a adeiladodd Eloth, ac a'i dug hi drachefn i Jwda, ar ôl huno o'r brenin gyda'i dadau.
3. Mab un flwydd ar bymtheg oedd Usseia pan ddechreuodd efe deyrnasu, a deuddeng mlynedd a deugain y teyrnasodd efe yn Jerwsalem: ac enw ei fam ef oedd Jecholeia o Jerwsalem.
4. Ac efe a wnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr Arglwydd, yn ôl yr hyn oll a wnaethai Amaseia ei dad ef.
5. Ac efe a ymgeisiodd â Duw yn nyddiau Sechareia, yr hwn oedd ganddo ddeall yng ngweledigaethau Duw: a'r dyddiau y ceisiodd efe yr Arglwydd, Duw a'i llwyddodd ef.