Hen Destament

Testament Newydd

2 Cronicl 24:13-26 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

13. Felly y gweithwyr a weithiasant, a'r gwaith a orffennwyd trwy eu dwylo hwynt: a hwy a wnaethant dŷ Dduw yn ei drefn ei hun, ac a'i cadarnhasant ef.

14. A phan orffenasant hwy ef, hwy a ddygasant y gweddill o'r arian gerbron y brenin a Jehoiada; a hwy a wnaethant ohonynt lestri i dŷ yr Arglwydd, sef llestri y weinidogaeth, a'r morterau, a'r llwyau, a'r llestri aur ac arian. Ac yr oeddynt hwy yn offrymu poethoffrymau yn nhŷ yr Arglwydd yn wastadol, holl ddyddiau Jehoiada.

15. Ond Jehoiada a heneiddiodd, ac oedd gyflawn o ddyddiau, ac a fu farw: mab can mlwydd a deg ar hugain oedd efe pan fu farw.

16. A hwy a'i claddasant ef yn ninas Dafydd gyda'r brenhinoedd; canys efe a wnaethai ddaioni yn Israel, tuag at Dduw a'i dŷ.

17. Ac wedi marw Jehoiada, tywysogion Jwda a ddaethant, ac a ymgrymasant i'r brenin: yna y brenin a wrandawodd arnynt hwy.

18. A hwy a adawsant dŷ Arglwydd Dduw eu tadau, ac a wasanaethasant y llwyni, a'r delwau: a daeth digofaint ar Jwda a Jerwsalem, oherwydd eu camwedd hyn.

19. Eto efe a anfonodd atynt hwy broffwydi, i'w troi hwynt at yr Arglwydd; a hwy a dystiolaethasant yn eu herbyn hwynt, ond ni wrandawsant hwy.

20. Ac ysbryd Duw a ddaeth ar Sechareia mab Jehoiada yr offeiriad, ac efe a safodd oddi ar y bobl, ac a ddywedodd wrthynt hwy, Fel hyn y dywedodd Duw, Paham yr ydych chwi yn troseddu gorchmynion yr Arglwydd? diau na ffynnwch chwi; canys gwrthodasoch yr Arglwydd, am hynny yntau a'ch gwrthyd chwithau.

21. A hwy a gydfwriadasant yn ei erbyn ef, ac a'i llabyddiasant ef â meini wrth orchymyn y brenin, yng nghyntedd tŷ yr Arglwydd.

22. Ac ni chofiodd Joas y brenin y caredigrwydd a wnaethai Jehoiada ei dad ef ag ef, ond efe a laddodd ei fab ef: a phan oedd efe yn marw, efe a ddywedodd, Edryched yr Arglwydd, a gofynned.

23. Ac ymhen y flwyddyn y daeth llu y Syriaid i fyny yn ei erbyn ef: a hwy a ddaethant yn erbyn Jwda a Jerwsalem, ac a ddifethasant holl dywysogion y bobl o blith y bobl, ac a anfonasant eu holl anrhaith hwynt i frenin Damascus.

24. Canys llu y Syriaid a ddaethai ag ychydig wŷr, a'r Arglwydd a roddodd yn eu llaw hwynt lu mawr iawn, am iddynt wrthod Arglwydd Dduw eu tadau: felly y gwnaethant hwy farn yn erbyn Joas.

25. A phan aethant hwy oddi wrtho ef, (canys hwy a'i gadawsant ef mewn clefydau mawrion,) ei weision ei hun a gydfwriadodd i'w erbyn ef, oherwydd gwaed meibion Jehoiada yr offeiriad, ac a'i lladdasant ef ar ei wely; ac efe a fu farw: a hwy a'i claddasant ef yn ninas Dafydd, ond ni chladdasant ef ym meddau y brenhinoedd.

26. A dyma y rhai a fradfwriadasant yn ei erbyn ef; Sabad mab Simeath yr Ammones, a Jehosabad mab Simrith y Foabes.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Cronicl 24