A phan orffenasant hwy ef, hwy a ddygasant y gweddill o'r arian gerbron y brenin a Jehoiada; a hwy a wnaethant ohonynt lestri i dŷ yr Arglwydd, sef llestri y weinidogaeth, a'r morterau, a'r llwyau, a'r llestri aur ac arian. Ac yr oeddynt hwy yn offrymu poethoffrymau yn nhŷ yr Arglwydd yn wastadol, holl ddyddiau Jehoiada.