Hen Destament

Testament Newydd

2 Cronicl 23:9-16 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

9. A Jehoiada yr offeiriad a roddodd i dywysogion y cannoedd, y gwaywffyn, a'r tarianau, a'r estylch, a fuasai yn eiddo y brenin Dafydd, y rhai oedd yn nhŷ Dduw.

10. Ac efe a gyfleodd yr holl bobl, a phob un â'i arf yn ei law, o'r tu deau i'r tŷ hyd y tu aswy i'r tŷ, ynghylch yr allor a'r tŷ, yn ymyl y brenin oddi amgylch.

11. Yna y dygasant allan fab y brenin, a rhoddasant y goron arno ef, a'r dystiolaeth, ac a'i hurddasant ef yn frenin: Jehoiada hefyd a'i feibion a'i heneiniasant ef, ac a ddywedasant, Byw fyddo y brenin.

12. A phan glybu Athaleia drwst y bobl yn rhedeg, ac yn moliannu y brenin, hi a ddaeth at y bobl i dŷ yr Arglwydd.

13. A hi a edrychodd, ac wele y brenin yn sefyll wrth ei golofn yn y ddyfodfa, a'r tywysogion a'r utgyrn yn ymyl y brenin; a holl bobl y wlad yn llawen, ac yn lleisio mewn utgyrn; a'r cantorion ag offer cerdd, a'r rhai a fedrent foliannu. Yna Athaleia a rwygodd ei dillad, ac a ddywedodd, Bradwriaeth, bradwriaeth!

14. A Jehoiada yr offeiriad a ddug allan dywysogion y cannoedd, sef swyddogion y llu, ac a ddywedodd wrthynt, Dygwch hi allan o'r rhesau: a'r hwn a ddelo ar ei hôl hi, lladder ef â'r cleddyf. Canys dywedasai yr offeiriad, Na leddwch hi yn nhŷ yr Arglwydd.

15. A hwy a roddasant ddwylo arni hi, a hi a ddaeth tua'r porth y deuai y meirch i dŷ y brenin, ac yno y lladdasant hwy hi.

16. A Jehoiada a wnaeth gyfamod rhyngddo ei hun, a rhwng yr holl bobl, a rhwng y brenin, i fod yn bobl i'r Arglwydd.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Cronicl 23