A Jehoiada yr offeiriad a ddug allan dywysogion y cannoedd, sef swyddogion y llu, ac a ddywedodd wrthynt, Dygwch hi allan o'r rhesau: a'r hwn a ddelo ar ei hôl hi, lladder ef â'r cleddyf. Canys dywedasai yr offeiriad, Na leddwch hi yn nhŷ yr Arglwydd.