Hen Destament

Testament Newydd

2 Cronicl 23:13-21 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

13. A hi a edrychodd, ac wele y brenin yn sefyll wrth ei golofn yn y ddyfodfa, a'r tywysogion a'r utgyrn yn ymyl y brenin; a holl bobl y wlad yn llawen, ac yn lleisio mewn utgyrn; a'r cantorion ag offer cerdd, a'r rhai a fedrent foliannu. Yna Athaleia a rwygodd ei dillad, ac a ddywedodd, Bradwriaeth, bradwriaeth!

14. A Jehoiada yr offeiriad a ddug allan dywysogion y cannoedd, sef swyddogion y llu, ac a ddywedodd wrthynt, Dygwch hi allan o'r rhesau: a'r hwn a ddelo ar ei hôl hi, lladder ef â'r cleddyf. Canys dywedasai yr offeiriad, Na leddwch hi yn nhŷ yr Arglwydd.

15. A hwy a roddasant ddwylo arni hi, a hi a ddaeth tua'r porth y deuai y meirch i dŷ y brenin, ac yno y lladdasant hwy hi.

16. A Jehoiada a wnaeth gyfamod rhyngddo ei hun, a rhwng yr holl bobl, a rhwng y brenin, i fod yn bobl i'r Arglwydd.

17. Yna yr holl bobl a aethant i dŷ Baal, ac a'i distrywiasant ef, a'i allorau, ei ddelwau hefyd a ddrylliasant hwy, ac a laddasant Mattan offeiriad Baal o flaen yr allor.

18. A Jehoiada a osododd swyddau yn nhŷ yr Arglwydd, dan law yr offeiriaid y Lefiaid, y rhai a ddosbarthasai Dafydd yn nhŷ yr Arglwydd, i offrymu poethoffrymau yr Arglwydd, fel y mae yn ysgrifenedig yng nghyfraith Moses, mewn llawenydd a chân, yn ôl trefn Dafydd.

19. Ac efe a gyfleodd y porthorion wrth byrth tŷ yr Arglwydd, fel na ddelai i mewn neb a fyddai aflan mewn dim oll.

20. Cymerodd hefyd dywysogion y cannoedd, a'r pendefigion, a'r rhai oedd yn arglwyddiaethu ar y bobl, a holl bobl y wlad, ac efe a ddug y brenin i waered o dŷ yr Arglwydd: a hwy a ddaethant trwy y porth uchaf i dŷ y brenin, ac a gyfleasant y brenin ar orseddfa y frenhiniaeth.

21. A holl bobl y wlad a lawenychasant, a'r ddinas a fu lonydd wedi iddynt ladd Athaleia â'r cleddyf.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Cronicl 23