Hen Destament

Testament Newydd

2 Cronicl 23:1-15 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Ac yn y seithfed flwyddyn yr ymgadarnhaodd Jehoiada, ac y cymerodd dywysogion y cannoedd, Asareia mab Jeroham, ac Ismael mab Johanan, ac Asareia mab Obed, a Maaseia mab Adaia, ac Elisaffat mab Sichri, gydag ef mewn cyfamod.

2. A hwy a aethant o amgylch yn Jwda, ac a gynullasant y Lefiaid o holl ddinasoedd Jwda, a phennau-cenedl Israel, ac a ddaethant i Jerwsalem.

3. A'r holl gynulleidfa a wnaethant gyfamod â'r brenin yn nhŷ Dduw: ac efe a ddywedodd wrthynt hwy, Wele, mab y brenin a deyrnasa, fel y llefarodd yr Arglwydd am feibion Dafydd.

4. Dyma y peth a wnewch chwi; Y drydedd ran ohonoch, yr rhai a ddeuant i mewn ar y Saboth, o'r offeiriaid ac o'r Lefiaid, fydd yn borthorion i'r trothwyau;

5. A'r drydedd ran fydd yn nhŷ y brenin; a'r drydedd ran wrth borth y sylfaen; a'r holl bobl yng nghynteddau tŷ yr Arglwydd.

6. Ac na ddeled neb i dŷ yr Arglwydd, ond yr offeiriaid, a'r gweinidogion o'r Lefiaid; deuant hwy i mewn, canys sanctaidd ydynt: ond yr holl bobl a gadwant wyliadwriaeth yr Arglwydd.

7. A'r Lefiaid a amgylchant y brenin o bob tu, pob un â'i arfau yn ei law; a phwy bynnag arall a ddelo i'r tŷ, lladder ef: ond byddwch chwi gyda'r brenin, pan ddelo efe i mewn, a phan elo efe allan.

8. A'r Lefiaid a holl Jwda a wnaethant yn ôl yr hyn oll a orchmynasai Jehoiada yr offeiriad, a hwy a gymerasant bawb eu gwŷr, y rhai oedd yn dyfod i mewn ar y Saboth, gyda'r rhai oedd yn myned allan ar y Saboth: (canys ni ryddhasai Jehoiada yr offeiriad y dosbarthiadau.)

9. A Jehoiada yr offeiriad a roddodd i dywysogion y cannoedd, y gwaywffyn, a'r tarianau, a'r estylch, a fuasai yn eiddo y brenin Dafydd, y rhai oedd yn nhŷ Dduw.

10. Ac efe a gyfleodd yr holl bobl, a phob un â'i arf yn ei law, o'r tu deau i'r tŷ hyd y tu aswy i'r tŷ, ynghylch yr allor a'r tŷ, yn ymyl y brenin oddi amgylch.

11. Yna y dygasant allan fab y brenin, a rhoddasant y goron arno ef, a'r dystiolaeth, ac a'i hurddasant ef yn frenin: Jehoiada hefyd a'i feibion a'i heneiniasant ef, ac a ddywedasant, Byw fyddo y brenin.

12. A phan glybu Athaleia drwst y bobl yn rhedeg, ac yn moliannu y brenin, hi a ddaeth at y bobl i dŷ yr Arglwydd.

13. A hi a edrychodd, ac wele y brenin yn sefyll wrth ei golofn yn y ddyfodfa, a'r tywysogion a'r utgyrn yn ymyl y brenin; a holl bobl y wlad yn llawen, ac yn lleisio mewn utgyrn; a'r cantorion ag offer cerdd, a'r rhai a fedrent foliannu. Yna Athaleia a rwygodd ei dillad, ac a ddywedodd, Bradwriaeth, bradwriaeth!

14. A Jehoiada yr offeiriad a ddug allan dywysogion y cannoedd, sef swyddogion y llu, ac a ddywedodd wrthynt, Dygwch hi allan o'r rhesau: a'r hwn a ddelo ar ei hôl hi, lladder ef â'r cleddyf. Canys dywedasai yr offeiriad, Na leddwch hi yn nhŷ yr Arglwydd.

15. A hwy a roddasant ddwylo arni hi, a hi a ddaeth tua'r porth y deuai y meirch i dŷ y brenin, ac yno y lladdasant hwy hi.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Cronicl 23