Hen Destament

Testament Newydd

2 Cronicl 15:5-16 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

5. Ac yn yr amseroedd hynny nid oedd heddwch i'r hwn oedd yn myned allan, nac i'r hwn oedd yn dyfod i mewn: ond blinder lawer oedd ar holl breswylwyr y gwledydd.

6. A chenedl a ddinistriwyd gan genedl, a dinas gan ddinas: oblegid Duw oedd yn eu poeni hwy â phob aflwydd.

7. Ymgryfhewch gan hynny, ac na laesed eich dwylo: canys y mae gwobr i'ch gwaith chwi.

8. A phan glybu Asa y geiriau hyn, a phroffwydoliaeth Oded y proffwyd, efe a gryfhaodd, ac a fwriodd ymaith y ffiaidd eilunod o holl wlad Jwda, a Benjamin, ac o'r holl ddinasoedd a enillasai efe o fynydd Effraim, ac a adnewyddodd allor yr Arglwydd, yr hon oedd o flaen porth yr Arglwydd.

9. Ac efe a gynullodd holl Jwda, a Benjamin, a'r dieithriaid gyda hwynt, o Effraim a Manasse, ac o Simeon: canys hwy a syrthiasant ato ef yn aml o Israel, pan welsant fod yr Arglwydd ei Dduw gydag ef.

10. Felly hwy a ymgynullasant i Jerwsalem, yn y trydydd mis, yn y bymthegfed flwyddyn o deyrnasiad Asa.

11. A hwy a aberthasant i'r Arglwydd y dwthwn hwnnw, o'r anrhaith a ddygasent, saith gant o eidionau, a saith mil o ddefaid.

12. A hwy a aethant dan gyfamod i geisio Arglwydd Dduw eu tadau, â'u holl galon, ac â'u holl enaid:

13. A phwy bynnag ni cheisiai Arglwydd Dduw Israel, fod ei roddi ef i farwolaeth, yn fychan ac yn fawr, yn ŵr ac yn wraig.

14. A hwy a dyngasant i'r Arglwydd â llef uchel, ac â bloedd, ag utgyrn hefyd, ac â thrwmpedau.

15. A holl Jwda a lawenychasant oherwydd y llw; canys â'u holl galon y tyngasent, ac â'u holl ewyllys y ceisiasant ef, a hwy a'i cawsant ef: a'r Arglwydd a roddodd lonyddwch iddynt o amgylch.

16. A'r brenhin Asa a symudodd Maacha ei fam o fod yn frenhines; oherwydd gwneuthur ohoni ddelw mewn llwyn: ac Asa a dorrodd ei delw hi, ac a'i drylliodd, ac a'i llosgodd wrth afon Cidron.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Cronicl 15