Hen Destament

Testament Newydd

2 Cronicl 14:1-10 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Felly Abeia a hunodd gyda'i dadau, a chladdasant ef yn ninas Dafydd; ac Asa ei fab a deyrnasodd yn ei le ef. Yn ei ddyddiau ef y cafodd y wlad lonydd ddeng mlynedd.

2. Ac Asa a wnaeth yr hyn oedd dda ac uniawn yng ngolwg yr Arglwydd ei Dduw.

3. Canys efe a fwriodd ymaith allorau y duwiau dieithr, a'r uchelfeydd, ac a ddrylliodd y delwau, ac a dorrodd y llwyni:

4. Ac a orchmynnodd i Jwda geisio Arglwydd Dduw eu tadau, a gwneuthur y gyfraith a'r gorchymyn.

5. Ac efe a fwriodd ymaith o holl ddinasoedd Jwda yr uchelfeydd a'r delwau: a chafodd y frenhiniaeth lonydd o'i flaen ef.

6. Ac efe a adeiladodd ddinasoedd cedyrn yn Jwda, oherwydd bod y wlad yn cael llonydd, ac nad oedd rhyfel yn ei erbyn ef yn y blynyddoedd hynny; oblegid yr Arglwydd a roddasai lonyddwch iddo.

7. Am hynny efe a ddywedodd wrth Jwda, Adeiladwn y dinasoedd hyn, ac amgylchwn hwynt â mur, â thyrau, â drysau, ac â barrau, tra fyddo y wlad o'n blaen ni; oherwydd i ni geisio yr Arglwydd ein Duw, ni a'i ceisiasom, ac efe a roddodd lonyddwch i ni o amgylch. Felly hwy a adeiladasant, ac a lwyddasant.

8. Ac yr oedd gan Asa lu o wŷr yn dwyn tarianau a gwaywffyn, o Jwda tri chan mil, ac o Benjamin dau cant a phedwar ugain mil yn dwyn tarianau, ac yn tynnu bwa: y rhai hyn oll oedd wŷr grymus.

9. A Sera yr Ethiopiad a ddaeth allan yn eu herbyn hwynt, â llu o fil o filoedd, ac â thri chant o gerbydau; ac a ddaeth hyd Maresa.

10. Yna Asa a aeth allan yn ei erbyn ef, a hwy a luniaethasant ryfel yn nyffryn Seffatha wrth Maresa.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Cronicl 14