4. Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Nac ewch i fyny, ac nac ymleddwch yn erbyn eich brodyr; dychwelwch bob un i'w dŷ ei hun: canys trwof fi y gwnaethpwyd y peth hyn. A hwy a wrandawsant ar eiriau yr Arglwydd, ac a ddychwelasant, heb fyned yn erbyn Jeroboam.
5. A Rehoboam a drigodd yn Jerwsalem, ac a adeiladodd ddinasoedd cedyrn yn Jwda.
6. Ac efe a adeiladodd Bethlehem, ac Etam, a Thecoa,
7. A Bethsur, a Socho, ac Adulam,
8. A Gath, a Maresa, a Siff,
9. Ac Adoraim, a Lachis, ac Aseca,
10. A Sora, ac Ajalon, a Hebron, y rhai oedd yn Jwda, ac yn Benjamin; dinasoedd o gadernid.
11. Ac efe a gadarnhaodd yr amddiffynfaoedd, ac a osododd flaenoriaid ynddynt hwy, a chellau bwyd, ac olew, a gwin.
12. Ac ym mhob dinas y gosododd efe darianau, a gwaywffyn, ac a'u cadarnhaodd hwynt yn gadarn iawn, ac eiddo ef oedd Jwda a Benjamin.
13. A'r offeiriaid a'r Lefiaid, y rhai oedd yn holl Israel, a gyrchasant ato ef o'u holl derfynau.