Hen Destament

Testament Newydd

2 Brenhinoedd 9:23-37 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

23. A Joram a drodd ei law, ac a ffodd, ac a ddywedodd wrth Ahaseia, Y mae bradwriaeth, O Ahaseia.

24. A Jehu a gymerth fwa yn ei law, ac a drawodd Joram rhwng ei ysgwyddau, fel yr aeth y saeth trwy ei galon ef, ac efe a syrthiodd yn ei gerbyd.

25. A Jehu a ddywedodd wrth Bidcar ei dywysog, Cymer, bwrw ef i randir maes Naboth y Jesreeliad: canys cofia pan oeddem ni, mi a thi, yn marchogaeth ynghyd ein dau ar ôl Ahab ei dad ef, roddi o'r Arglwydd arno ef y baich hwn.

26. Diau, meddai yr Arglwydd, gwaed Naboth, a gwaed ei feibion, a welais i neithiwr, a mi a dalaf i ti yn y rhandir hon, medd yr Arglwydd. Gan hynny cymer a bwrw ef yn awr yn y rhandir hon, yn ôl gair yr Arglwydd.

27. Ond pan welodd Ahaseia brenin Jwda hynny, efe a ffodd ar hyd ffordd tŷ yr ardd. A Jehu a ymlidiodd ar ei ôl ef, ac a ddywedodd, Trewch hwn hefyd yn ei gerbyd. A hwy a'i trawsant ef yn rhiw Gur, yr hon sydd wrth Ibleam; ac efe a ffodd i Megido, ac a fu farw yno.

28. A'i weision a'i dygasant ef mewn cerbyd i Jerwsalem, ac a'i claddasant ef yn ei feddrod gyda'i dadau, yn ninas Dafydd.

29. Ac yn yr unfed flwyddyn ar ddeg i Joram mab Ahab yr aethai Ahaseia yn frenin ar Jwda.

30. A phan ddaeth Jehu i Jesreel, Jesebel a glybu hynny, ac a golurodd ei hwyneb, ac a wisgodd yn wych am ei phen, ac a edrychodd trwy ffenestr.

31. A phan oedd Jehu yn dyfod i mewn i'r porth, hi a ddywedodd, A fu heddwch i Simri, yr hwn a laddodd ei feistr?

32. Ac efe a ddyrchafodd ei wyneb at y ffenestr, ac a ddywedodd, Pwy sydd gyda mi, pwy? A dau neu dri o'r ystafellyddion a edrychasant arno ef.

33. Yntau a ddywedodd, Teflwch hi i lawr. A hwy a'i taflasant hi i lawr; a thaenellwyd peth o'i gwaed hi ar y pared, ac ar y meirch: ac efe a'i mathrodd hi.

34. A phan ddaeth efe i mewn, efe a fwytaodd ac a yfodd, ac a ddywedodd, Edrychwch am y wraig felltigedig honno, a chleddwch hi; canys merch brenin ydyw hi.

35. A hwy a aethant i'w chladdu hi; ond ni chawsant ohoni onid y benglog a'r traed, a chledrau'r dwylo.

36. Am hynny hwy a ddychwelasant, ac a fynegasant iddo ef. Dywedodd yntau, Dyma air yr Arglwydd, yr hwn a lefarodd efe trwy law ei wasanaethwr Eleias y Thesbiad, gan ddywedyd, Yn rhandir Jesreel y bwyty y cŵn gnawd Jesebel:

37. A chelain Jesebel a fydd fel tomen ar wyneb y maes, yn rhandir Jesreel; fel na ellir dywedyd, Dyma Jesebel.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Brenhinoedd 9