2 Brenhinoedd 9:36 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)
Am hynny hwy a ddychwelasant, ac a fynegasant iddo ef. Dywedodd yntau, Dyma air yr Arglwydd, yr hwn a lefarodd efe trwy law ei wasanaethwr Eleias y Thesbiad, gan ddywedyd, Yn rhandir Jesreel y bwyty y cŵn gnawd Jesebel: