Hen Destament

Testament Newydd

2 Brenhinoedd 8:7-17 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

7. A daeth Eliseus i Damascus: a Benhadad brenin Syria oedd glaf; a mynegwyd iddo ef, gan ddywedyd, Daeth gŵr Duw yma.

8. A'r brenin a ddywedodd wrth Hasael, Cymer anrheg yn dy law, a dos i gyfarfod â gŵr Duw; ac ymofyn â'r Arglwydd trwyddo ef, gan ddywedyd, A fyddaf fi byw o'r clefyd hwn?

9. Felly Hasael a aeth i'w gyfarfod ef, ac a gymerth anrheg yn ei law, a phob peth a'r a oedd dda o Damascus, sef llwyth deugain o gamelod; ac a ddaeth, ac a safodd o'i flaen ef, ac a ddywedodd, Benhadad brenin Syria dy fab a'm hanfonodd atat, gan ddywedyd, A fyddaf fi byw o'r clefyd hwn?

10. Ac Eliseus a ddywedodd wrtho, Dos, a dywed wrtho, Diau y gelli fyw: eto yr Arglwydd a ddangosodd i mi y bydd efe marw yn ddiau.

11. Ac efe a osododd ei wyneb, ac a ddaliodd sylw arno, nes cywilyddio ohono ef: a gŵr Duw a wylodd.

12. A Hasael a ddywedodd, Paham y mae fy arglwydd yn wylo? Dywedodd yntau, Am fy mod yn gwybod y drwg a wnei di i feibion Israel: eu hamddiffynfaoedd hwynt a losgi di â thân, a'u gwŷr ieuainc a leddi â'r cleddyf, a'u plant a bwyi, a'u gwragedd beichiogion a rwygi.

13. A Hasael a ddywedodd, Pa beth! ai ci yw dy was, fel y gwnelai efe y mawr beth hyn? Ac Eliseus a ddywedodd, Yr Arglwydd a ddangosodd i mi y byddi di yn frenin ar Syria.

14. Felly efe a aeth ymaith oddi wrth Eliseus, ac a ddaeth at ei arglwydd; yr hwn a ddywedodd wrtho, Beth a ddywedodd Eliseus wrthyt ti? Ac efe a atebodd, Efe a ddywedodd wrthyf, y byddit ti byw yn ddiau.

15. A thrannoeth efe a gymerth wrthban, ac a'i gwlychodd mewn dwfr, ac a'i lledodd ar ei wyneb ef, fel y bu efe farw: a Hasael a deyrnasodd yn ei le ef.

16. Ac yn y bumed flwyddyn i Joram mab Ahab brenin Israel, a Jehosaffat yn frenin yn Jwda, y dechreuodd Jehoram mab Jehosaffat brenin Jwda deyrnasu.

17. Mab deuddeng mlwydd ar hugain oedd efe pan ddechreuodd deyrnasu; ac wyth mlynedd y teyrnasodd efe yn Jerwsalem.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Brenhinoedd 8