Hen Destament

Testament Newydd

2 Brenhinoedd 6:24-33 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

24. Ac wedi hyn Benhadad brenin Syria a gynullodd ei holl lu, ac a aeth i fyny, ac a warchaeodd ar Samaria.

25. Ac yr oedd newyn mawr yn Samaria: ac wele, yr oeddynt hwy yn gwarchae arni hi, nes bod pen asyn er pedwar ugain sicl o arian, a phedwaredd ran cab o dom colomennod er pum sicl o arian.

26. Ac fel yr oedd brenin Israel yn myned heibio ar y mur, gwraig a lefodd arno ef, gan ddywedyd, Achub, fy arglwydd frenin.

27. Dywedodd yntau, Oni achub yr Arglwydd dydi, pa fodd yr achubaf fi di? Ai o'r ysgubor, neu o'r gwinwryf?

28. A'r brenin a ddywedodd wrthi hi, Beth a ddarfu i ti? Hithau a ddywedodd, Y wraig hon a ddywedodd wrthyf, Dyro dy fab, fel y bwytaom ef heddiw; a'm mab innau a fwytawn ni yfory.

29. Felly ni a ferwasom fy mab i, ac a'i bwytasom ef: a mi a ddywedais wrthi hithau y diwrnod arall, Dyro dithau dy fab, fel y bwytaom ef: ond hi a guddiodd ei mab.

30. A phan glybu y brenin eiriau y wraig, efe a rwygodd ei ddillad, ac a aeth heibio ar y mur; a'r bobl a edrychodd, ac wele, sachliain oedd am ei gnawd ef oddi fewn.

31. Ac efe a ddywedodd, Fel hyn y gwnelo Duw i mi, ac fel hyn y chwanego, os saif pen Eliseus mab Saffat arno ef heddiw.

32. Ond Eliseus oedd yn eistedd yn ei dŷ, a'r henuriaid yn eistedd gydag ef. A'r brenin a anfonodd ŵr o'i flaen: ond cyn dyfod y gennad ato ef, efe a ddywedodd wrth yr henuriaid, A welwch chwi fel yr anfonodd mab y llofrudd hwn i gymryd ymaith fy mhen i? Edrychwch pan ddêl y gennad i mewn, caewch y drws, a deliwch ef wrth y drws: onid yw trwst traed ei arglwydd ar ei ôl ef?

33. Ac efe eto yn ymddiddan â hwynt, wele y gennad yn dyfod i mewn ato ef: ac efe a ddywedodd, Wele, y drwg hyn sydd oddi wrth yr Arglwydd; paham y disgwyliaf wrth yr Arglwydd mwy?

Darllenwch bennod gyflawn 2 Brenhinoedd 6