Ond Eliseus oedd yn eistedd yn ei dŷ, a'r henuriaid yn eistedd gydag ef. A'r brenin a anfonodd ŵr o'i flaen: ond cyn dyfod y gennad ato ef, efe a ddywedodd wrth yr henuriaid, A welwch chwi fel yr anfonodd mab y llofrudd hwn i gymryd ymaith fy mhen i? Edrychwch pan ddêl y gennad i mewn, caewch y drws, a deliwch ef wrth y drws: onid yw trwst traed ei arglwydd ar ei ôl ef?