13. Y brenin hefyd a ddifwynodd yr uchelfeydd oedd ar gyfer Jerwsalem, y rhai oedd o'r tu deau i fynydd y llygredigaeth, y rhai a adeiladasai Solomon brenin Israel i Astoreth ffieidd‐dra'r Sidoniaid, ac i Cemos ffieidd‐dra'r Moabiaid, ac i Milcom ffieidd‐dra meibion Ammon.
14. Ac efe a ddrylliodd y delwau, ac a dorrodd y llwyni, ac a lanwodd eu lle hwynt ag esgyrn dynion.
15. Yr allor hefyd, yr hon oedd yn Bethel, a'r uchelfa a wnaethai Jeroboam mab Nebat, yr hwn a wnaeth i Israel bechu, ie, yr allor honno a'r uchelfa a ddistrywiodd efe, ac a losgodd yr uchelfa, ac a'i malodd yn llwch, ac a losgodd y llwyn.
16. A Joseia a edrychodd, ac a ganfu feddau, y rhai oedd yno yn y mynydd, ac a anfonodd, ac a gymerth yr esgyrn o'r beddau, ac a'u llosgodd ar yr allor, ac a'i halogodd hi, yn ôl gair yr Arglwydd yr hwn a gyhoeddasai gŵr Duw, yr hwn a bregethasai y geiriau hyn.
17. Yna efe a ddywedodd, Pa deitl yw hwn yr ydwyf fi yn ei weled? A gwŷr y ddinas a ddywedasant wrtho, Bedd gŵr Duw, yr hwn a ddaeth o Jwda, ac a gyhoeddodd y pethau hyn a wnaethost ti i allor Bethel, ydyw.
18. Ac efe a ddywedodd, Gadewch ef yn llonydd: nac ymyrred neb â'i esgyrn ef. Felly yr achubasant ei esgyrn ef, gydag esgyrn y proffwyd a ddaethai o Samaria.
19. Joseia hefyd a dynnodd ymaith holl dai yr uchelfeydd, y rhai oedd yn ninasoedd Samaria, y rhai a wnaethai brenhinoedd Israel i ddigio yr Arglwydd, ac a wnaeth iddynt yn ôl yr holl weithredoedd a wnaethai efe yn Bethel.