Yr allorau hefyd, y rhai oedd ar nen ystafell Ahas, y rhai a wnaethai brenhinoedd Jwda, a'r allorau a wnaethai Manasse yn nau gyntedd tŷ yr Arglwydd, a ddistrywiodd y brenin, ac a'u bwriodd hwynt i lawr oddi yno, ac a daflodd eu llwch hwynt i afon Cidron.