Hen Destament

Testament Newydd

2 Brenhinoedd 17:10-19 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

10. Gosodasant hefyd iddynt ddelwau a llwyni ar bob bryn uchel, a than bob pren irlas:

11. Ac a arogldarthasant yno yn yr holl uchelfeydd, fel y cenhedloedd y rhai a gaethgludasai yr Arglwydd o'u blaen hwynt; a gwnaethant bethau drygionus i ddigio'r Arglwydd.

12. A hwy a wasanaethasant eilunod, am y rhai y dywedasai yr Arglwydd wrthynt, Na wnewch y peth hyn.

13. Er i'r Arglwydd dystiolaethu yn erbyn Israel, ac yn erbyn Jwda, trwy law yr holl broffwydi, a phob gweledydd, gan ddywedyd, Dychwelwch o'ch ffyrdd drygionus, a chedwch fy ngorchmynion, a'm deddfau, yn ôl yr holl gyfraith a orchmynnais i'ch tadau, a'r hon a anfonais atoch trwy law fy ngweision y proffwydi.

14. Eto ni wrandawsant, eithr caledasant eu gwarrau fel gwarrau eu tadau, y rhai ni chredasant yn yr Arglwydd eu Duw.

15. A hwy a ddirmygasant ei ddeddfau ef, a'i gyfamod yr hwn a wnaethai efe â'u tadau hwynt, a'i dystiolaethau ef y rhai a dystiolaethodd efe i'w herbyn; a rhodiasant ar ôl oferedd, ac a aethant yn ofer: aethant hefyd ar ôl y cenhedloedd y rhai oedd o'u hamgylch, am y rhai y gorchmynasai yr Arglwydd iddynt, na wnelent fel hwynt.

16. A hwy a adawsant holl orchmynion yr Arglwydd eu Duw, ac a wnaethant iddynt ddelwau tawdd, nid amgen dau lo: gwnaethant hefyd lwyn, ac ymgrymasant i holl lu y nefoedd, a gwasanaethasant Baal.

17. A hwy a dynasant eu meibion a'u merched trwy'r tân, ac a arferasant ddewiniaeth, a swynion, ac a ymwerthasant i wneuthur yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd, i'w ddigio ef.

18. Am hynny yr Arglwydd a ddigiodd yn ddirfawr wrth Israel, ac a'u bwriodd hwynt allan o'i olwg: ni adawyd ond llwyth Jwda yn unig.

19. Ni chadwodd Jwda chwaith orchmynion yr Arglwydd eu Duw, eithr rhodiasant yn neddfau Israel y rhai a wnaethent hwy.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Brenhinoedd 17