Hen Destament

Testament Newydd

2 Brenhinoedd 17:15 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

A hwy a ddirmygasant ei ddeddfau ef, a'i gyfamod yr hwn a wnaethai efe â'u tadau hwynt, a'i dystiolaethau ef y rhai a dystiolaethodd efe i'w herbyn; a rhodiasant ar ôl oferedd, ac a aethant yn ofer: aethant hefyd ar ôl y cenhedloedd y rhai oedd o'u hamgylch, am y rhai y gorchmynasai yr Arglwydd iddynt, na wnelent fel hwynt.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Brenhinoedd 17

Gweld 2 Brenhinoedd 17:15 mewn cyd-destun