Hen Destament

Testament Newydd

2 Brenhinoedd 17:1-15 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Yn y ddeuddegfed flwyddyn i Ahas brenin Jwda, y teyrnasodd Hosea mab Ela yn Samaria ar Israel; naw mlynedd y teyrnasodd efe.

2. Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd, eto nid fel brenhinoedd Israel y rhai a fuasai o'i flaen ef.

3. A Salmaneser brenin Asyria a ddaeth i fyny yn ei erbyn ef, a Hosea a aeth yn was iddo ef, ac a ddug iddo anrhegion.

4. A brenin Asyria a gafodd fradwriaeth yn Hosea: canys efe a ddanfonasai genhadau at So brenin yr Aifft, ac ni ddanfonasai anrheg i frenin Asyria, fel y byddai efe arferol bob blwyddyn: am hynny brenin Asyria a gaeodd arno ef, ac a'i rhwymodd ef mewn carchardy.

5. Yna brenin Asyria a aeth i fyny trwy'r holl wlad, ac a aeth i fyny i Samaria, ac a warchaeodd arni hi dair blynedd.

6. Yn y nawfed flwyddyn i Hosea, yr enillodd brenin Asyria Samaria, ac y caethgludodd efe Israel i Asyria, ac a'u cyfleodd hwynt yn Hala ac yn Habor, wrth afon Gosan, ac yn ninasoedd y Mediaid.

7. Felly y bu, am i feibion Israel bechu yn erbyn yr Arglwydd eu Duw, yr hwn a'u dygasai hwynt i fyny o wlad yr Aifft, oddi tan law Pharo brenin yr Aifft, ac am iddynt ofni duwiau dieithr,

8. A rhodio yn neddfau y cenhedloedd, y rhai a fwriasai yr Arglwydd allan o flaen meibion Israel, ac yn y deddfau a wnaethai brenhinoedd Israel.

9. A meibion Israel a wnaethant yn ddirgel bethau nid oedd uniawn yn erbyn yr Arglwydd eu Duw, ac a adeiladasant iddynt uchelfeydd yn eu holl ddinasoedd, o dŵr y gwylwyr hyd y ddinas gaerog.

10. Gosodasant hefyd iddynt ddelwau a llwyni ar bob bryn uchel, a than bob pren irlas:

11. Ac a arogldarthasant yno yn yr holl uchelfeydd, fel y cenhedloedd y rhai a gaethgludasai yr Arglwydd o'u blaen hwynt; a gwnaethant bethau drygionus i ddigio'r Arglwydd.

12. A hwy a wasanaethasant eilunod, am y rhai y dywedasai yr Arglwydd wrthynt, Na wnewch y peth hyn.

13. Er i'r Arglwydd dystiolaethu yn erbyn Israel, ac yn erbyn Jwda, trwy law yr holl broffwydi, a phob gweledydd, gan ddywedyd, Dychwelwch o'ch ffyrdd drygionus, a chedwch fy ngorchmynion, a'm deddfau, yn ôl yr holl gyfraith a orchmynnais i'ch tadau, a'r hon a anfonais atoch trwy law fy ngweision y proffwydi.

14. Eto ni wrandawsant, eithr caledasant eu gwarrau fel gwarrau eu tadau, y rhai ni chredasant yn yr Arglwydd eu Duw.

15. A hwy a ddirmygasant ei ddeddfau ef, a'i gyfamod yr hwn a wnaethai efe â'u tadau hwynt, a'i dystiolaethau ef y rhai a dystiolaethodd efe i'w herbyn; a rhodiasant ar ôl oferedd, ac a aethant yn ofer: aethant hefyd ar ôl y cenhedloedd y rhai oedd o'u hamgylch, am y rhai y gorchmynasai yr Arglwydd iddynt, na wnelent fel hwynt.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Brenhinoedd 17