Hen Destament

Testament Newydd

2 Brenhinoedd 16:13-20 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

13. Ac efe a losgodd ei boethoffrwm, a'i fwyd‐offrwm, ac a dywalltodd ei ddiod‐offrwm, ac a daenellodd waed ei offrymau hedd ar yr allor.

14. A'r allor bres, yr hon oedd gerbron yr Arglwydd, a dynnodd efe ymaith o dalcen y tŷ, oddi rhwng yr allor a thŷ yr Arglwydd, ac a'i rhoddes hi o du gogledd yr allor.

15. A'r brenin Ahas a orchmynnodd i Ureia yr offeiriad gan ddywedyd, Llosg ar yr allor fawr y poethoffrwm boreol, a'r bwyd‐offrwm prynhawnol, poethoffrwm y brenin hefyd, a'i fwyd‐offrwm ef, a phoethoffrwm holl bobl y wlad, a'u bwyd‐offrwm hwynt, a'u diodydd‐offrwm hwynt; a holl waed y poethoffrwm, a holl waed yr aberth, a daenelli di arni hi: a bydded yr allor bres i mi i ymofyn.

16. Ac Ureia yr offeiriad a wnaeth yn ôl yr hyn oll a orchmynasai y brenin Ahas.

17. A'r brenin Ahas a dorrodd ddaliadau yr ystolion, ac a dynnodd ymaith y noe oddi arnynt hwy, ac a ddisgynnodd y môr oddi ar yr ychen pres oedd tano, ac a'i rhoddodd ar balmant cerrig.

18. A gorchudd y Saboth yr hwn a adeiladasant hwy yn tŷ, a dyfodfa'r brenin oddi allan, a drodd efe oddi wrth dŷ yr Arglwydd, o achos brenin Asyria.

19. A'r rhan arall o hanes Ahas, yr hyn a wnaeth efe, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Jwda?

20. Ac Ahas a hunodd gyda'i dadau, ac a gladdwyd gyda'i dadau yn ninas Dafydd; a Heseceia ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Brenhinoedd 16