A'r brenin Ahas a orchmynnodd i Ureia yr offeiriad gan ddywedyd, Llosg ar yr allor fawr y poethoffrwm boreol, a'r bwyd‐offrwm prynhawnol, poethoffrwm y brenin hefyd, a'i fwyd‐offrwm ef, a phoethoffrwm holl bobl y wlad, a'u bwyd‐offrwm hwynt, a'u diodydd‐offrwm hwynt; a holl waed y poethoffrwm, a holl waed yr aberth, a daenelli di arni hi: a bydded yr allor bres i mi i ymofyn.